Mae’r cyflwynydd radio Chris Moyles wedi gwneud tro pedol ar ôl cwyno ar ei raglen foreuol nad oedd y BBC wedi ei dalu ers deufis.
Heddiw, dywedodd y cyflwynydd ei fod yn gallu bod yn “ddi-hwyl” y peth cynta’ yn y bore, ac mai dyna oedd yn gyfrifol am y bregeth fore ddoe.
Bryd hynny roedd Chris Moyles wedi cyhuddo’r BBC o “amharch mawr” tuag ato, ac ychwanegodd ei fod o’n “grac iawn, iawn” ynglyn a’r sefyllfa, ac wedi ystyried peidio a dod mewn i’r gwaith o gwbwl.
Pregethodd y cyflwynydd am hanner awr heb chwarae unrhyw gerddoriaeth, gan ofyn: “Pam ddylen i ddod mewn? Mae’n gweithio ddwy ffordd.”
Anwybyddodd y cyflwynydd gwynion gwrandawyr a decstiodd i mewn i’r rhaglen.
Ond heddiw honnodd y cyflwynydd nad oedd e’n “dda iawn yn y bore,” gan ychwanegu ei fod o wedi ymddwyn yn llawer gwaeth ar y radio o’r blaen.
“Fe dries i esbnionio wrth y bos ddoe fy mod i, yn dawel bach, yn berson dd-hwyl iawn, iawn y peth cynta yn y bore, er gwaetha’r ffaith fy mod i’n cyflwyno rhaglen frecwast Radio 1.”
Esboniodd llefarydd ar ran y BBC nad oedden nhw wedi talu Chris Moyles oherwydd nam cyfrifiadurol.