Mae llefarydd ar ran y Bwrdd Iechyd sy’n rheoli Ysbyty Gwynedd wedi cadarnhau wrth Golwg 360 nad oes “unrhyw gynlluniau i gau unrhyw wasanaeth ar ward Alaw.”

Mae hynny’n golygu na fydd y ward yn cau yn gyfan gwbl ac na fydd gwlâu yn cael eu tynnu o’r ward, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Daw hynny wedi i amryw o sïon ledu yn y wasg ynglŷn â dyfodol y ward sy’n uned ganser yn yr ysbyty ym Mangor.

Roedd penaethiaid iechyd wedi dweud yr wythnos diwethaf bod gwasanaethau canser ar draws gogledd Cymru “dan ystyriaeth”.

Cadarnhaodd llefarydd nad yw “cleifion wedi’u symud oddi ar y ward,” a bod “Alaw yn parhau i ofalu am ei chleifion i safonau uchel”.

Ychwanegodd fod “pob aelod o staff parhaol yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi eu diogelu gan bolisi cenedlaethol ‘dim diswyddiadau’ a sefydlwyd gan y Gweinidog Iechyd.”

Ond dywedodd y Bwrdd y bydd rhaid iddynt gael “nifer o drafodaethau pellach ar sut y gellir darparu gwasanaethau canser yng Ngogledd Cymru yn y modd mwyaf effeithiol gyda’r staff clinigol, y cyfleusterau a’r cyllid sydd gennym”.

‘Protest gyhoeddus’

Yn gynharach heddiw roedd Aelod Cynulliad ac Aelod Seneddol Arfon, Alun Ffred Jones a Hywel Williams, wedi mynegi eu pryder ynglŷn ag adroddiadau yn y wasg fod yna gynllun i gau’r uned ganser.

Roedd y ddau wedi mynd i gyfarfod blynyddol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr heddiw gan rybuddio y byddai unrhyw fygythiad i ddyfodol y ward yn arwain at “brotest gyhoeddus”.

“Cawsom ein sicrhau gan gadeirydd y Bwrdd Michael Williams nad os unrhyw gynlluniau i gau Ward Alaw, er bod y gwasanaeth gofal canser ledled Gogledd Cymru’n cael ei adolygu,” meddai Alun Ffred Jones.

Ansicrwydd

Dywedodd gweithiwr yn Ysbyty Gwynedd sy’n dymuno aros yn ddienw wrth Golwg360 ei bod hi wedi “clywed ers tua thair wythnos” bod ansicrwydd ynglŷn â dyfodol Ward Alaw.

Doedd dim neges glir wedi dod o gyfeiriad y Bwrdd yn gwadu na chadarnhau’r sïon, meddai.

“Rydw i’n teimlo y dyle nhw fod wedi ei gwneud hi’n glir beth oedd yn digwydd. Mae’r sion wedi bod yn mynd yn eu blaen ers sbel,” meddai wrth Golwg360.

“Roedd rhai o’r staff yn credu y byddai ward Alaw yn cau dros nos. Roedd pawb yn siarad amdano.

“Yr unig beth ar dafodau staff tua thair wythnos yn ôl oedd y byddai’n rhaid torri staff. Fyddai hynny ddim yn iach, gyda’r gaeaf yn dod. Dyna pryd mae angen mwy o staff.”

Datganiad y Bwrdd

“Hoffem sicrhau’r cyhoedd nad oes yr un o gleifion canser Ward Alaw wedi cael eu symud i wardiau meddygol cyffredinol i dderbyn gofal. Hoffem hefyd egluro nad oes yr un penderfyniad wedi’i wneud i gau na symud unrhyw wasanaethau sydd ar hyn o bryd yn cael eu darparu yn yr uned neu ar y ward cleifion mewnol,” meddai’r llefarydd.

“Mae’r ward yn dal i dderbyn cleifion ac mae’r staff meddygol a nyrsio yn parhau i ddarparu gofal arbenigol ardderchog.”

Fe ddywedodd y llefarydd fod “gwasanaethau’n parhau i gael eu datblygu ac rydym yn y broses o adeiladu uned cemotherapi gwerth £2m yn Fferyllfa Ysbyty Gwynedd a fydd yn ein galluogi i wella gwasanaethau yn Alaw.”

Trafodaethau

Bydd y broses o ail edrych ar ddarpariaeth gwasanaethau canser y Bwrdd yn cychwyn ym mis Hydref ac yn parhau am sawl mis gan ganolbwyntio’n gyntaf ar haematoleg glinigol.

Bydd barn clinigwyr, staff, cleifion, grwpiau gwirfoddol a sefydliadau elusennol yn cael eu hystyried.

“Bydd hyn yn cynnwys edrych ar rôl ward cleifion mewnol Alaw wrth ddarparu gwasanaeth o’r ansawdd uchaf i’n cleifion,” meddai’r Bwrdd.

“Yn dilyn y broses, caiff argymhellion eu gwneud i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y flwyddyn newydd. Byddwn yn gwneud cymaint ag y gallwn i’w cynnwys drwy gydol y broses ac i roi gwybodaeth iddynt.”