Fe fydd De Affrica heb eu capten John Smit pan fyddan nhw’n herio Cymru fis Tachwedd.
Fe gyhoeddwyd bod y bachwr 32 oed wedi derbyn triniaeth yn Durban ddoe i gywiro problem hirdymor gyda’i wddf, ac y bydd o allan o’r gêm am dri mis.
Mae hyn yn golygu y bydd yn methu holl gemau De Affrica ar eu taith yn yr hydref i Brydain ac Iwerddon, gan gynnwys eu gêm yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd ar Dachwedd 13.
Triniaeth lwyddiannus
Roedd y driniaeth yn un llwyddiannus yn ôl meddyg tîm rygbi De Affrica Craig Roberts.
“Roedd yr amseru’n iawn iddo gael y driniaeth” meddai Roberts ar wefan Undeb Rygbi De Affrica, “bydd cyfle iddo wella’n iawn erbyn y tymor newydd.”
“Doedd yr anaf ddim yn un oedd yn bygwth ei yrfa” ychwanegodd Roberts, ac fe fydd “yn sicrhau fod John yn ffit i’r Sbringbocs a’r Shark yn nhymor 2011.”
Does dim cadarnhad ynglŷn â phwy fydd yn arwain De Affrica yn lle Smit, ond mae’r clo Victor Matfield sydd wedi bod yn gapten ar ei wlad ar 11 achlysur, ymysg y ffefrynnau.