Cafodd Archesgob Cymru ei gyhuddo o wneud sylwadau “sarhaus iawn” neithiwr ar ôl araith oedd yn cymharu Israel gyda’r cyfnod Apartheid yn Ne Affrica.

Mewn araith yn Llambed i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, rhybuddiodd Barry Morgan fod Palestiniaid cymhedrol mewn peryg o gael eu radicaleiddio drwy bolis?au Israel yn Gaza.

Dywedodd Llysgenhadaeth Israel wrth bapur newydd y Western Mail fod sylwadau Barry Morgan yn “peri pryder,” gan ychwanegu mai mudiad Islamaidd Hamas oedd yn gyfrifol am yr amgylchiadau.

Dywedodd Ffrindiau Anglicanaidd Israel fod geiriau Barry Morgan yn “sarhaus” a’i bod hi’n amlwg nad os modd cymharu Israel â De Affrica yn oes apaertheid.

Yn ôl Barry Morgan, “mae’r sefyllfa yn ymdebygu i sefyllfa apartheid De Affrica gan fod Gaza drws nesaf i un o wledydd mwyaf modern a soffistigedig y byd – Israel.”

Israel yn rhoi’r bai ar Hamas

Dywedodd llefarydd ar ran Llysgenhadaeth Israel fod sylwadau’r Archesgob yn peri llawer o ofid iddyn nhw, a bod y Palestiniaid wedi creu eu problemau eu hunain trwy ganolbwyntio’u hadnoddau ar ymosod ar Israel.

“Wrth fuddsoddi’r cymorth ariannol maen nhw’n ei dderbyn ar adnoddau rhyfel yn hytrach nag ar iechyd ac addysg, y llywodraeth Hamas sy’n gyfrifol am yr anghyfartaledd y mae’r Archesgob yn sôn amdano.”

Cyhuddodd Simon McIlwaine, o Ffrindiau Anglicanaidd Israel, y Palestiniaid o wastraffu’r cyfle i greu “Singapor Mediteranaidd.”

Dywedodd fod hawliau Palestiniaid yn cael eu parchu yn Israel, a bod Hamas i’w beio am y problemau dyngarol yn Gaza.

“Petai yna ddim Hamas, fyddai yna ddim problem.”