Mae Dreigiau Gwent wedi enwi Tom Willis yn eu tîm er mwyn herio’r Scarlets ar Rodney Parade nos fory.
Nid yw Willis wedi chwarae hyd yn hyn eleni oherwydd anaf, a bydd hyfforddwr y Dreigiau Paul Turner yn gobeithio y bydd modd i’w gapten ysbrydoli’r tîm yn dilyn eu cweir siomedig o 43-21 yn erbyn y Gleision nos Sadwrn.
“Fe wnaethon ni fethu 23 tacl yn erbyn y Gleision, ac rydach chi’n mynd i gael eich cosbi wrth wneud hynny,” meddai Turner. “Mae’n rhaid i ni sicrhau fod ein hamddiffyn ni’n cael ei drefnu’n dda a’i weithredu’n dda yn erbyn y Scarlets.”
Cheeseman yn y garfan
Mae Paul Turner hefyd wedi cynnwys y canolwr Tom Cheeseman ar y fainc ar gyfer y gêm ddarbi.
Fe symudodd Cheeseman ar fenthyg o Gaerfaddon am weddill y tymor yr wythnos diwethaf wedi iddo dreulio chwe mlynedd yng Nghynghrair Lloegr.
Mae Turner wedi penderfynu gwneud dau newid arall i’r tîm ddechreuodd yn erbyn y Gleision gyda Phil Price yn cymryd lle Hugh Gustafson yn y rheng flaen ac Adam Hughes yn dechrau ar yr asgell yn lle Matthew Pewtner.
Tîm y Dreigiau i herio’r Scarlet
Will Harries, Adam Hughes, Tom Riley, Rhodri Gomer Davies, Aled Brew, Matthew Jones, Wayne Evans, Phil Price, Tom Willis (C), Ben Castle, Luke Charteris, Rob Sidoli, Danny Lydiate, Robin Sowden-Taylor, Gavin Thomas
Eilyddion
Lloyd Burns, Nigel Hall, Hugh Gustafson, Adam Jones, Andrew Coombs, Shaun Connor, Nicky Griffiths, Tom Cheeseman.
Gêm i’w chwarae ar Rodney Parade am 19:05, nos Wener 24 Medi. Gêm i’w gweld yn fyw ar BBC2 Cymru.