Mae AC Arfon, Alun Ffred Jones wedi croesawu sicrwydd nad oes cynllun i gau Ward Alaw, yr uned ganser yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Mynegodd yr Aelod Cynulliad ac Aaelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, eu pryder ynglŷn ag adroddiadau yn y wasg fod yna gynllun i gau’r uned ganser.
Roedd y ddau wedi mynd i gyfarfod blynyddol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr heddiw gan rybuddio y byddai unrhyw fygythiad i ddyfodol y ward yn arwain at “brotest gyhoeddus”.
“Cawsom ein sicrhau gan gadeirydd y Bwrdd Michael Williams nad os unrhyw gynlluniau i gau Ward Alaw, er bod y gwasanaeth gofal canser ledled Gogledd Cymru’n cael ei adolygu,” meddai Alun Ffred Jones.
Pwysleisiodd Alun Ffred Jones hefyd fod yr uned o “bwysigrwydd mawr i bobl ardal eang, ac y byddai ei chau yn ychwanegu at ofid cleifion a’u teuluoedd”.
Atgoffodd y Bwrdd fod Ward Alaw “wedi ei sefydlu’n rhannol gyda chyfraniadau gan y cyhoedd”.
“Atgoffais i’r Bwrdd hefyd fod £250,000 wedi ei godi mewn cyfraniadau cyhoeddus er mwyn darparu sganiwr newydd ar gyfer Ysbyty Gwynedd.
“Rhoddodd y cadeirydd sicrwydd yn y cyfarfod na fydd yr arian yma’n cael ei wario yn unman heblaw am Fangor.
“Gobeithio y bydd yr addewidion hyn yn dileu unrhyw amheuon a godwyd yn sgil y sibrydion parhaus ynglŷn â dyfodol Ward Alaw,” meddai.