Mynnodd Taoiseach Iwerddon, Brian Cowen, bod rhaid i bobol y wlad ddechrau gwario arian wrth iddo wfftio awgrymiadau bod y wlad ar fin dioddef dirwasgiad dwbl.

Datgelodd ffigyrau swyddogol heddiw bod economi Gweriniaeth Iwerddon wedi dechrau crebachu eto rhwng mis Ebrill a mis Mehefin ar ôl gwella rywfaint dros y tri mis blaenorol.

“Dydw i ddim yn derbyn y dadansoddiad yna, yn seiliedig ar yr adroddiad chwarterol yma,” meddai.

“Rhaid edrych ar y flwyddyn gyfan er mwyn gweld sut y bydd pethau’n mynd.”

Roedd yr adroddiad yn dangos bod Cynnyrch Domestig Gros y wlad wedi syrthio 1.2% rhwng mis Ebrill a mis Mehefin.

Roedd y ffigyrau yn dangos bod cwsmeriaid wedi gwario 1.7% yn llai na’r un adeg y llynedd.

Dywedodd Brian Cowen bod yr economi wedi gwneud yn well na’r disgwyl yn tri mis cyntaf y flwyddyn a bod rhaid ystyried ffigyrau’r ail chwarter yn y cyd-destun hwnnw.

Er bod diweithdra wedi cynyddu i 462,000, dywedodd Brian Cowen mai’r brif broblem oedd nad oedd cwsmeriaid yn gwario digon o arian.

Dywedodd y byddai’n rhaid i bobol fynd i’r siop er mwyn adfer llewyrch ariannol y wlad.

“Rhaid i ni barhau i annog pobol – pawb sydd ag incwm i’w wario – i’w wario yn yr economi domestig,” meddai.