Mae ffatri creu darnau ceir sy’n cyflogi 225 o weithwyr ger Castell Nedd yn debygol o gau, cyhoeddwyd heddiw.

Dywedodd cwmni TRW Automotive eu bod nhw’n ystyried cyfuno’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Resolfen gyda safleoedd eraill ledled Ewrop.

Mae’r cwmni sydd yn seiliedig yn yr Unol Daleithiau yn ymgynghori gyda gweithwyr ynglŷn â chau’r ffatri dechrau’r flwyddyn nesaf.

Dywedodd cyfarwyddwr Ewropeaidd y cwmni, Neville Rudd, bod y dechnoleg sy’n cael ei defnyddio mewn ceir wedi symud ymlaen gan adael y systemau llywio hydrolig sy’n cael eu creu yn Resolfen ar ôl.

“Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu o ganlyniad i’r cwymp yn nifer y cerbydau sy’n cael eu hadeiladu yn Ewrop,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni weithredu ar frys er mwyn gwella cystadleurwydd ein busnes creu systemau llywio.

“Doedd hyn ddim yn benderfyniad hawdd ond rydym ni wedi ystyried pob dewis amgen. Yn anffodus mae’r ffatri yma wedi bod yn gwneud colled ers blynyddoedd er gwaethaf ein hymdrechion.

“Fe fyddwn ni’n awr yn gweithio gyda’r staff er mwyn dod drwy’r cyfnod anodd yma o ymgynghori.”

Ergyd

Dywedodd AS Castell-Nedd, Peter Hain, bod cau’r ffatri yn “ergyd” i’r cymunedau o gwmpas y ffatri.

Ychwanegodd ei fod o wedi bod yn trafod gyda’r cwmni ac undebau ers naw mis er mwyn ceisio cadw’r ffatri yn agored.

“Roedd y gweithlu yn fodlon torri 15% oddi ar eu cyflogau ac o bosib mwy os oedd sicrwydd fod gan Resolfen ddyfodol,” meddai.

“Roedd o’n benderfyniad dewr ac anodd gan y gweithwyr. Does neb eisiau torri eu cyflogau, gan effeithio ar eu safonau byw a’u teuluoedd.

“Ond roedden nhw’n benderfynol o geisio cadw eu swyddi. Rydw i’n rhwystredig iawn ynglŷn â beth sydd wedi digwydd.”