Gallai cynllun ysgolion gwerth £266 miliwn olygu cau 16 ysgol yn Nhorfaen, meddai’r Cyngor.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn i bob un o gynghorau Cymru cyflwyno cynigion er mwyn mynd i’r afael â’r ysgolion sy’n heneiddio ac yn hanner llawn.

Byddai cynlluniau ar gyfer ysgolion yn Nhorfaen yn torri nifer yr ysgolion o 32 i 20, gydag wyth ysgol yn cael eu hadeiladu.

Bydd bron i bob un o’r ysgolion yn cael eu gwella, gyda phump yn cael eu trawsnewid yn llwyr a phedair yn cael eu hymestyn a’u hadnewyddu.

Dim ond tair ysgol gynradd fydd ddim yn gweld unrhyw newid.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Barnett, yr aelod dros blant a phobl ifanc y byddai’n gyfle “unwaith mewn oes” er mwyn “trawsnewid addysg yn Nhorfaen”.

“Bydd yn mynd i’r afael â’r broblem genedlaethol o adeiladau ysgol sy’n heneiddio, ysgolion o faint amhriodol a lleoedd gwag,” meddai.

“Bydd yn gwella addysg plant nawr ac yn gwella addysg cenedlaethau’r dyfodol. Os bydd ein cynigion yn llwyddiannus, bydd yn codi safonau dysgu.”