Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama wedi galw ar y byd i uno y tu ôl i gynllun er mwyn sicrhau heddwch rhwng Israel a Phalestina.

Galwodd ar y Cenhedloedd Unedig i gefnogi cytundeb fyddai’n creu Palestina annibynnol ac yn sicrhau diogelwch Israel mewn blwyddyn.

Mewn araith o flaen Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig heddiw, fe fydd Barack Obama yn galw ar arweinwyr y byd i droi cefn ar ddegawdau o anghytundeb a ffrae.

Heb gytundeb bydd “mwy o waed yn cael ei golli” ac fe fydd y “Tir Sanctaidd yn parhau’n symbol o’n gwahaniaethau ni yn hytrach na’n dynoliaeth ar y cyd”.

“Os nad oes yna gytundeb fydd pobol Palestina byth yn ymwybodol o’r balchder a’r urddas sy’n dod drwy gael eich gwlad eich hun.

“Bydd pobol Israel byth yn cael y diogelwch a’r sicrwydd fydd yn dod o gael cymdogion sefydlog sydd eisiau cyd-fyw.”

Mae Arlywydd Palestina, Mahmoud Abbas yn bygwth gadael y trafodaethau os nad ydi Israel yn rhoi’r gorau i adeiladu trefi Iddewig ar y Llain Orllewinol.

Ond mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu, wedi dweud na fydd o’n rhoi’r gorau iddi.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol Hillary Clinton wedi bod yn cyfarfod gyda swyddogion o’r ddwy ochr yr wythnos yma yn Efrog Newydd ond does dim arwydd eu bod nhw wedi symud y drafodaeth ymlaen.