Mae trefnydd elusen sydd wedi rhoi mis o wyliau i blant Chernobyl yng Nghaernarfon wedi dweud wrth iddyn nhw adael fod y profiad wedi bod yn un “gwych iddyn nhw”.
Roedd Terry McDaid o Chernobyl Children’s Lifeline wedi trefnu bod pedwar o hogiau o bentref Lipen ym Melarus yn dod draw i aros yng Nghaernarfon.
Mae popeth sy’n eu hamgylchynu gartref gan gynnwys y dŵr, yr awyr a’r bwyd wedi’i effeithio gan ymbelydredd trychineb Chernobyl ar 26 Ebrill 1986, meddai.
“Mae’r profiad wedi bod yn wych iddyn nhw. Fe aethon nhw yn ôl gyda lliw yn eu bochau a chyda storiâu am Gymru, a chyda brwdfrydedd,” meddai.
“Maen nhw wedi cofio’r gair ‘drwg’ – ond oherwydd ei fod o’n golygu ffrind yn eu hiaith nhw!”
Rhai o’r plant ym mhentref Lipen.
Nôl adeg y Nadolig
Yn ystod eu pedair wythnos yng ngogledd Cymru roedd y bechgyn yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau gan gynnwys cyfarfod swyddogion yr heddlu a hwylio.
“Doedden nhw erioed wedi gweld y môr o’r blaen ac yn awyddus i fynd yn syth i mewn iddo. Roedd ganddo’r ‘wow’ ffactor go iawn,” meddai Terry McDaid.
Roedd y pum bachgen ac athro o bentref Lipen ger tref Ossipovichi ym Melarus – fe adawon nhw Gymru ar 12 Medi.
Dywedodd Terry McDaid, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r elusen ers 2002, ei fod o’n gobeithio y bydd mwy yn dod draw yn y dyfodol. Mae o eisoes yn trefnu bod dwy ferch o Felarus yn dod i Gaernarfon at ei deulu dros y Nadolig.
Dywedodd bod un ferch 14 oed gydag asgwrn cefn wedi’i anffurfio oherwydd sgil effaith yr ymbelydredd arni. Roedd o wedi ei chyfarfod mewn ysgol wrth ddychwelyd yn ôl â disgyblion eraill eleni.
Oherwydd ei chyflwr, mae’n rhaid i’r ferch “wisgo corsed i’w dal i fyny,” meddai Terry McDaid cyn dweud nad yw meddygon yn siŵr sut i’w thrin hi ym Melarus.
Mae Terry McDaid yn chwilio am feddyg o’r wlad hon fydd yn gallu helpu’r ferch ifanc dros y Nadolig “am ddim”.
Y gobaith yw y gallai aros am o leiaf deufis os ydi hi’n derbyn triniaeth.