Bydd y Sefydliad Materion Cymreig yn cynnal cynhadledd a fydd yn trafod pwysigrwydd y celfyddydau mewn amser o galedi economaidd.
Yn ôl y sefydliad, mae diwydiannau creadigol Cymru bellach yn ganolog ar gyfer “iechyd economaidd a diwylliannol y wlad”.
Mae’n nhw’n dweud bod cyfnodau economaidd anodd y 1930au a’r 1980au wedi bod ymysg y mwyaf creadigol yn hanes Cymru.
Bydd y cynhadledd yn tynnu sylw at ddatblygiad ysgrifennu Saesneg o Gymru yn yr 1930au, drwy waith Rhys Davies, Jack Jones, Idris Davies a Gwyn Thomas, a barddoniaeth Vernon Watkins a Dylan Thomas.
O ran yr 1980au, fe fyddan nhw’n tynnu sylw at ddatblygiadau ym myd teledu megis sefydlu S4C, a dyfodiad bandiau gwleidyddol eu naws fel y Manic Street Preachers, a’r Stereophonics ychydig yn ddiweddarach.
Bydd y gynhadledd yn gofyn a oes modd rhagweld a fydd yr un math o ymateb creadigol i’r caledi economaidd diweddar yn digwydd yng Nghymru y tro yma.
Bydd hefyd yn gofyn sut y dylai sefydliadau fel Cyngor Celfyddydau Cymru weithio er mwyn ceisio manteisio ar y sefyllfa.
Y prif siaradwr fydd yr hanesydd celf adnabyddus, Peter Lord.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener 1 Hydref, yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, rhwng 9:00am a 4:00pm.
Mae modd prynu tocynnau oddi ar wefan y Sefydliad Materion Cymreig, neu drwy alw’r rhif: 029 2066 0820.
Mae’r gynhadledd yn nodi cychwyn Gŵyl Ddylunio Caerdydd 2010.