Mae’n ymddangos yn gynyddol sicr y bydd Gemau’r Gymanwlad yn digwydd ar ôl i dimau Cymru a’r Alban gadarnhau y byddan nhw’n cymryd rhan.

Datgelodd tim Cymru pnawn ma eu bod nhw wedi penderfynu aros yn Delhi er mwyn cymryd rhan yn y gemau.

Mewn datganiad dywedodd y tim eu bod nhw wedi derbyn sicrwydd gan Bwyllgor Trefnu Delhi bod pentref yr athletwyr a’r ymrysonfeydd yn saff i gael eu defnyddio.

“Fe fydd y criw cyntaf yn symud i mewn i’r llety nawr ac rydym ni’n edrych ymlaen at groesawu ein athletwyr dros y dyddiau nesaf,” meddai.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Delhi addo “gweithredu brys” er mwyn datrys y problemau, sy’n cynnwys diffyg glendid ym mhentref yr athletwyr.

Roedd lluniau o bentref yr athletwyr a ddatgelwyd heddiw yn dangos ystafelloedd ymolchi aflan a gwelyau gydag ôl pawennau cŵn arnyn nhw.

Dywedodd arlywydd Gemau’r Gymanwlad Cymru, Anne Ellis wrth sianel Sky Sports News eu bod nhw wedi gofyn am “ddogfennau ychwanegol” er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau yn saff.

“Rydym ni’n hapus bod y problemau yn cael eu datrys ac yn edrych ymlaen i fynd i Delhi,” meddai.

“Wythnos yn ôl roedd o fel safle adeiladu, ond roedd y rhan fwyaf ohono’n waith cosmetig er bod yna broblemau difrifol gyda’r trydan a’r plymio.

“Mae ein bloc fflatiau wedi cael ei lanhau ac mae o nawr yn gyffyrddus i’n hathletwyr.”

Dywedodd Lalit Bhanot, ysgrifennydd cyffredinol y pwyllgor trefnu, ei fod o’n hyderus y bydd y gemau yn llwyddiant.

Roedd o wedi denu beirniadaeth dydd Mawrth am ddweud nad oedd safonau glendid y gorllewin yr un fath â rhai India.

“Mae’r Llywodraeth wedi gwneud pob ymdrech er mwyn sicrhau bod y cyfleusterau o safon uchel,” meddai heddiw.