Cafodd cyflwynwraig newydd The One Show, Alex Jones, dipyn o ffwdan gyda’i ffrog ar y rhaglen neithiwr.

Roedd Alex Jones yn ceisio arddangos ffrog wedi ei gwneud yn gyfan gwbwl o falŵniau pan eisteddodd hi i lawr ar ddiwedd y rhaglen, gan ddatgelu ei choesau i’r gynulleidfa drwy gamgymeriad.

Bu ei chyd-gyflwynydd Jason Manford yn gyfrifol am beth o’r embaras wrth iddo ymyrryd â threfniant y balŵniau nes popio rhai ar dop ei choesau gan adael darnau heb eu gorchuddio.

“Fi’n ffaelu credu bod e’n dinistrio’n ffrog i – wir!” meddai Alex Jones wrth y gynulleidfa.

Roedd y gyflwynwraig Gymraeg yn modelu ffrog wen o falŵniau gyda phatrwm heulwen drosto, a bu Alex Jones yn trafod gwaith manwl y cynllunydd wrth roi’r wisg at ei gilydd.

“Fe gymrodd hi 10 awr i’w gwneud, ac mae ’na 350 o falŵniau arni hi,” meddai Alex Jones, cyn i’w chyd-gyflwynydd ddechrau eu byrstio.