Mae cwpwl sy’n rhedeg sw ger Aberystwyth wedi derbyn dirwyon ar ôl i lys eu cael yn euog o werthu ac arddangos anifeiliaid sydd wedi’u gwarchod.
Plediodd Jean Mumbray o Anifeilfa Borth yn euog i sawl cyfri o arddangos a gwerthu anifeiliaid prin yn anghyfreithlon o flaen Llys Ynadon Aberystwyth ddoe.
Pleidiodd Alan Mumbray yn euog i arddangos a gwerthu anifeiliaid prin.
Fe gafodd Jean Mumbray ddirwy o £937.50 yn ogystal â £250 mewn costau ac Alan Mumbray ddirwy o £300 a £100 mewn costau.
“Mae’r mwyafrif helaeth o sŵau a pharciau anifeiliaid yn y DU yn gweithredu o fewn y gyfraith ac yn chwarae rhan bwysig wrth warchod rhywogaethau sydd mewn perygl,” meddai Nevin Hunter, Pennaeth Cofrestru a Gorfodaeth Trwyddedu Iechyd Bywyd Gwyllt Anifeiliaid.
“Fodd bynnag, i’r rhai sy’n dewis anwybyddu’r rheoliadau hyn, fe fyddwn ni’n cymryd camau pendant er mwyn eu herlyn.”