Mae’r Llywydd newydd alw mewn i’r swyddfa am sgwrs. Mae e wrth ei fodd gyda’r llyfr newydd ‘Senedd’ gomisiynwyd ganddo fe. Ac mae rheswm da ganddo i ymfalchio yn y llyfr, priodas hyfryd o eiriau’r newyddiadurwr Trevor Fishlock a lluniau Andrew Molyneux. Mae cyfweliad gyda Trevor Fishlock yn Golwg heddiw a dyna oedd yn plesio Dafydd Êl.

Newydd gael ei gyhoeddi gan gwmni Graffeg mae ‘Senedd’ ac fel un sy’n gweithio yn yr adeilad, galla i ddweud ei fod wedi dal ysbryd y lle yma i’r dim. Tra’n siarad â fi dywedodd Trevor Fishlock bod y lluniau yn temtio rhywun i neidio ar y trên neu’r bws agosaf i ddod i weld y pensaerniaeth hyfryd, ac fe fyddai’n anodd anghytuno â fe. Fe dreuliodd yr awdur oriau lawer yn ymlwybro coridorau’r Senedd ac yn anadlu’r awyrgylch yn y mannau cyhoeddus ac mae ei frwdfrydedd dros y testun yn amlwg.

Ond hyd yn oed heb y disgrifiadau cain yn olrhain hanes yr adeilad mae’r lluniau’n dweud stori’r Senedd -o’r lluniau llyfrgell sy’n dangos y bae mewn du a gwyn nôl yn y cyfnod pan oedd yr ardal yn ganolbwynt i ddiwydiant nid gwleidyddiaeth i’r lluniau diweddar o’r Senedd fel lle gwaith a man cyfarfod i’r cyhoedd.

Y fersiwn Gymraeg sydd wedi dod i fy llaw i wrth gwrs ac mae cyfieithiad Rhys Iorwerth yn odidog, yn ddi-gywilydd ddefnyddio iaith goeth, hardd fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan gynganeddwr -Cymraeg go iawn sydd yma, nid cyfieithiad slafaidd o’r Saesneg. “Yn y man cyfarfod ar y teras llechi, mae’r to’n esgyn i’r entrychion uwch ein pennau, yn bortico cysgodol ar nodwyddau main o ddur, yn feranda eang, yn adain grom, yn gysgod pabell. Yn wir, gall hwn fod yn bopeth.” Geiriau bardd, yn ddi os!

Mae llun gwych llyfrgell ar dudalen 25 yn edrych lawr dros adeilad y Pierhead drws nesaf i’r doc dwyreiniol lle mae’r Senedd nawr. Dau lun arall gwerth pip yw’r llun o’r Senedd wedi ei guddio gan sgaffaldau tra’n cael ei adeiladu sydd ar draws tudalennau 44-45 a’r llun o’r twndis dur dros y siambr drafod cyn iddo gael ei orchuddio â phren sydd ar draws tudalennau 46-47. Yn ein stafell ni, mae cryn chwerthin ac efallai rhyw ychydig bach o falchder, o weld ein gilydd ar dudalennau 122-125.

Llyfr da i’r bwrdd coffi yw hwn, gwerth lloffa ynddo o dro i dro. Dw i ddim wedi blino arno er mod i’n byw a bod yng nghrombil y testun. Mae’n lawlyfr i bobol sydd eisiau gwybodaeth gefndir fras am y Senedd a hanes Cymru ac i’r rhai fydd yn gwerthfawrogi ffotograffiaeth gelfydd.