Mae haint marwol wedi’i ddarganfod ar nifer fach o goed llarwydd Japaneaidd yng nghanolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, ger Aberystwyth.
Mae’r haint, Phytophthora ramorum, yn bathogen sy’n debyg i ffwng sy’n lladd llawer o’r coed y mae’n eu heintio.
Mae coed llarwydd Japaneaidd sydd wedi’u heintio yn cynhyrchu niferoedd uchel o’r sborau sy’n lledaenu’r afiechyd, sy’n golygu y gall llawer o’r coed hyn gael eu heintio’n gyflym iawn.
Mewn ymgais i atal yr haint rhag lledaenu eto, bydd Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn torri hyd at 60 o goed sydd wedi’u heintio ar hyn o bryd. Bydd y gwaith yn cymryd rhyw bythefnos i’w gwblhau.
Er mwyn osgoi lledaenu’r pathogen yn anfwriadol, mae’r comisiwn yn gofyn i ymwelwyr gydymffurfio â nifer o ragofalon syml a dilyn y cyfarwyddiadau ar arwyddion sydd wedi’u gosod o amgylch yr ardal heintiedig a’r ganolfan ymwelwyr.
Mae’r rhain yn cynnwys cadw at lwybrau, cadw cŵn ar dennyn, glanhau esgidiau a pheidio â mynd ag unrhyw ddeunydd planhigion i ffwrdd.
Bydd pob un o’r llwybrau cerdded a beicio mynydd yn aros ar agor, ond wrth i’r broses torri coed fynd rhagddi, bydd rhan o’r llwybr o amgylch y llyn yn cael ei gau am gyfnod byr a bydd llwybr arall yn cael ei farcio.
“Mae Phytophthora ramorum yn afiechyd coed difrifol ac rydym yn symud yn gyflym i dorri’r coed heintiedig ym Mwlch Nant yr Arian,” meddai Ruth Jenkins o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru sy’n rheoli Bwlch Nant yr Arian ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru.
“Trwy dorri coed heintiedig, gobeithiwn gyfyngu ar y sborau sy’n cael eu cynhyrchu sy’n lledaenu’r haint, a gobeithiwn leihau effaith yr haint gymaint â phosibl.”