Mae cyn arweinydd Llafur yng Nghymru wedi rhybuddio’r ymgyrch ar gyfer mwy o bwerau deddfu i’r Cynulliad i osgoi pwnc trethi.
Mae Rhodri Morgan yn rhybuddio na ddylai neb ei drafod yn yr hinsawdd bresennol rhag rhoi hwb i ymgyrch ‘Na’ True Wales yn y refferendwm ar bwerau deddfu’r Cynulliad.
“Os ydych chi’n cymysgu a chymhlethu pobol fel eu bod nhw’n meddwl falle bod hwn am dalu mwy o drethi ar y raddfa ddomestig er mwyn torri trethi i’r sector fusnes, fe fyddech chi’n cael pleidlais ‘Na’ er bod e ddim ar y pwnc yna,” meddai wrth Golwg.
“Os ydych chi am golli’r refferendwm ym mis Mawrth, dechreuwch siarad am y refferendwm nesaf ar drethi, pan does dim y fath refferendwm ar y gweill.
“Os ydych chi am golli, dyna’r ffordd i’w gwneud hi. Os ydych chi moyn ennill, gwnewch e’n hollol glir am beth mae’r refferendwm hyn, dyw e ddim am newid y pŵer i drethu.”
Darllenwch weddill y cyfweliad yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi