Gostyngodd nifer y morgeisi sy’n cael eu cymeradwyo i’r lefel isaf ers 16mis yn ystod mis Awst, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd heddiw.
Dim ond 31,767 o forgeisi ar gyfer prynu tai gafodd eu cymeradwyo fis diwethaf, yr isaf ers mis Ebrill y llynedd, yn ôl Cymdeithas Bancwyr Prydain.
Dyma’r drydedd mis yn olynol i nifer y morgeisi ostwng, wrth i’r farchnad dai barhau i golli ei gwerth, er bod nifer y tai sy’n cael eu gwerthu fel arfer yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf.
“Mae’r galw am forgeisi yn parhau yn wan, er gwaetha’r ffaith fod mwy o dai yn dod ar werth,” meddai David Dooks, cyfarwyddwr ystadegau Cymdeithas Bancwyr Prydain.
“Yn yr hinsawdd economaidd presennol mae’n anhebygol y bydd y galw’n cynyddu yn y dyfodol agos.”
Dirwasgiad dwbwl i Brydain?
Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd Cyngor y Benthycwyr Morgeisi fod benthyciadau mis Awst ar eu hisaf ers deng mlynedd, ac yn ôl Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, bu cwymp yn y nifer o dai a newidiodd ddwylo yn ystod y mis.
Mae’r farchnad marwaidd wedi codi pryderon ymysg rhai economegwyr fod Prydain bellach yn wynebu dirwasgiad dwbwl.
Yn ôl Howard Archer, prif economegydd Prydeinig ac Ewropeaidd IHS Global Insight, mae data Cymdeithas Bancwyr Prydain yn dangos bod “prisiau tai yn mynd i ddisgyn ym mhellach dros y misoedd nesaf”.
“R’yn ni’n disgwyl i brisiau tai ddisgyn tua 10% rhwng nawr a 2011.
“Yn ein barn ni, dyw’r farchnad dai ddim yn edrych yn llewyrchus iawn ar hyn o bryd, ar wahan i’r cyfraddau morgais isel – ac mae hynny’n ddibynnol ar eich gallu i gael morgais.”
Ond, mae eraill yn dweud nad yw’r gostyngiad mewn prisiau tai yn achos pryder gan fod adfywiad y farchnad dai wedi digwydd ymhell o flaen gweddill yr economi hyd yn hyn.