Clywodd cwest i farwolaeth y bargyfreithiwr Mark Saunders ddoe sut y cafodd y gŵr 32 oed ei saethu’n farw gan yr heddlu ar ôl tair awr a hanner o drafod.
Roedd Mark Saunders, a oedd yn feddw ar y pryd, wedi saethu drwy ffenest ei fflat ddwywaith yn ystod y noson cyn i’r heddlu arfog ei saethu’n farw am 9.30pm ar 7 Mai, 2008.
Gwyliodd y rheithgor oriau olaf Mark Saunders ddoe trwy dystiolaeth fideo a gasglwyd gan hofrennydd yr heddlu ar y noson.
Gwelwyd y bargyfreithiwr yn chwifio ei ddryll yn yr awyr wrth iddo hongian o’i ffenest ar bedwerydd llawr yr adeilad yn Sgwâr Markham, Chelsea.
Wrth i’r heddlu ymbilio ar Mark Saunders i roi’r dryll i lawr drwy uchel seinydd a ffôn symudol, fe ollyngodd ei ddryll yn araf.
Ond pan drodd y dryll ar ei ochr, i gyfeiriad yr adeilad gyferbyn, saethwyd y bargyfreithwr gan saith swyddog oedd wedi eu lleoli yn yr adeilad ar draws yr hewl iddo.
Cafodd Mark Saunders ei daflu yn ôl i mewn i’r gegin gan nerth y pum bwled a’i darodd yn ei ben a’i frest, gan ei ladd.
Amheuaeth am fwriadau Mark Saunders
Mae teulu y bargyfreithiwr wedi beirniadu’r heddlu am beidio a gadael i’w wraig gael y cyfle i siarad â’i gŵr er mwyn ceisio datrys y sefyllfa, er iddi ofyn am y cyfle.
Dywedodd un o swyddogion yr heddlu ar y noson ei hun nad oedd Mark Saunders yn swnio fel dyn oedd wir yn dymuno marw. “Mae e eisioes wedi sôn am ddau beth yn ymwneud â’r dyfodol.”
“Y perygl mwyaf,” meddai’r swyddog, “yw y bydd e’n saethu ei hunan drwy gamgymeriad, neu y bydd e’n cerdded mas yn ddifeddwl gyda’i ddryll a’i fod e’n cael ei saethu.”
Er hynny, dywedodd swyddog arall fod yna “awgrym” fod Mark Saunders yn meddwl saethu ei hun, ond ychwanegodd ei fod o mor feddw fe allai wneud hynny ar gamgymeriad.
Mae’r cwest yn parhau.