Fe fydd dynion tân yn dechrau gweithredu’n ddiwydiannol yfory ar ôl dadl dros gontractau newydd, ac maen nhw wedi bygwth mynd ar streic fis nesaf.
Dywedodd Undeb y Brigadau Tân y bydd y gweithredu yn mynd yn ei flaen yn Llundain o hanner nos heno os nad ydi brigâd y ddinas yn tynnu cynlluniau i gyflwyno’r contractau newydd yn ôl.
Fe fydd y gweithwyr tân yn gwrthod gweithio dros eu horiau a chymryd rhan mewn unrhyw brosiectau gwirfoddol.
Fe fydd yna hefyd bleidlais ar streicio, a bydd canlyniad hwnnw’n cael ei ddatgelu ar 14 Hydref. Maen nhw’n anhapus ynglŷn ag oriau shifftiau newydd sy’n cael eu gweithredu.
“Mae diffoddwyr tân yn casáu gorfod gweithredu’n ddiwydiannol, ac rydym ni eisiau trafod, nid streicio,” meddai ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Matt Wrack.
“Mae Brigâd Dân Llundain eisiau newid oriau shifftiau ein gweithwyr, ac rydym ni’n barod i barhau i drafod hynny.”