Mae trafnidiaeth gyhoeddus ac ysgolion wedi cau ar draws Ffrainc heddiw wrth i weithwyr brotestio yn erbyn cynlluniau’r Arlywydd Nicolas Sarkozy i godi’r oed ymddeol o 60 i 62.

Roedd llai na hanner trenau Metro Paris yn weithredol heddiw, ac roedd disgwyl i nifer o awyrennau i mewn ac allan o feysydd awyr Orly a Charles de Gaulle gael eu canslo.

Dywedodd y prif undeb athrawon na fyddai mwy na 50% o’u haelodau yn mynd i’r ysgol.

Mae arweinwyr undebau yn gobeithio y bydd miliynau yn cymryd rhan mewn 232 protest ledled y wlad.

Ar 7 Medi fe brotestiodd 1.1 miliwn o bobol yn erbyn y cynlluniau i newid y system bensiwn. Dywedodd y llywodraeth bod rhaid codi’r oed ymddeol er mwyn lleihau’r diffyg ariannol mawr yn y system bensiwn erbyn 2018.

Mae’r streiciau yn cael eu gwylio’n astud gan wledydd eraill yn Ewrop wrth i lywodraethau frwydro i dorri eu costau gyda mesurau amhoblogaidd.

Yn ôl pôl piniwn gan asiantaeth Viavoice Ffrainc, roedd tua 60% yn gwrthwynebu codi’r oed ymddeol a 37% o blaid y cynllun.