Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi wfftio araith gyntaf Ron Davies i gynhadledd Plaid Cymru ers iddi ddweud y bydd yn sefyll dros y blaid yn etholaeth Caerffili.

“Roedd Ron yn un cryf iawn tu ôl y Blaid Lafur tan iddo fe golli’i swydd, mae hynna’n dangos beth sy’n gyrru’i feddwl e,” meddai Carwyn Jones wrth Golwg ar drothwy cynhadledd flynyddol Brydeinig Llafur.

“Dw i’n credu bod ei sylwadau fe mwy i wneud â’r ffaith iddo fe golli’i swydd fel Ysgrifennydd Gwladol a phopeth ddigwyddodd ar ôl hynny nag unrhyw beth i wneud â’r Blaid Lafur.”

Ar waethaf hyder Plaid Cymru y gallan nhw arwain llywodraeth yn y Cynulliad ar ôl yr etholiad, mae Carwyn Jones yn darogan canlyniad da i’w blaid ei hun er nad yw’n barod i fynd i fanylion.

Yn yr arolygon barn misol diweddar gan ITV mae’r gefnogaeth i Lafur yn swmpus, ben ac ysgwydd uwch ben y pleidiau eraill.

“Mae pob plaid yn dweud eu bod nhw’n moyn ennill etholiad ond r’yn ni’n hapus dros ben bod gyda ni gefnogaeth mwy nag erioed o’r blaen o ran yr arolygon barn.

“Wrth ddweud hynny, r’yn ni’n deall mai sylfaen yw hwn, dyw popeth ddim drosodd. Fe fyddwn ni’n gweithio’n galed i gael pleidleisiau.”

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi

(Llun: PA)