Mae arweinydd Cyngor Wrecsam wedi cadarnhau y bydd o’n ceisio am enwebiad yn y sedd sydd wedi’i chynrychioli gan Eleanor Burnham ers sefydlu’r Cynulliad yn 1999.

Gobaith Aled Roberts ydi cael ei ddewis i gynrychioli’r Democratiaid Rhyddfrydol ar restr rhanbarth y gogledd yn etholiad y Cynulliad.

Er ei fod wedi dweud yn y gorffennol ei fod am aros o fewn llywodraeth leol, dywed ei fod yn awyddus i gael “gwaed newydd” i’w blaid ym Mae Caerdydd a’i bod yn bryd rhoi cyfle arall i arwain Cyngor Wrecsam.

“Rydan ni mewn clymblaid yn Wrecsam sy’n reit eang a dw i’n cyd-weithio efo gwahanol bleidiau yn effeithiol iawn.” meddai Aled Roberts. “Ac rwy’n gadeirydd arweinyddion cynghorau sir y gogledd ac yn gweld bod llawer o waith i’w wneud dros y gogledd. Rhaid rhoi’r neges yn glir a darbwyllo pobol ynglŷn â beth sydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol i’w gynnig.

“Mae polisi gan Lywodraeth y Cynulliad sy’n canoli pethau gormod a dydi o ddim yn gwneud lles i’r gogledd. Mae penderfyniadau anodd i’w gwneud yn yr hinsawdd sydd ohoni a dw i’n credu bod rhaid gwneud yr opsiynau yn glir.”

Mae Eleanor Burnham yn hyderus y bydd hi’n cadw’r sedd ond dywedodd ei bod hi’n falch bod digon o dalent yn y blaid yn y gogledd i gael gornest.

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi