Mae chwech o gynghorau Cymru wedi uno eu gwasanaethau cyfreithiol er mwyn ceisio arbed arian.

Mae disgwyl i’r cynllun rhwng cynghorau sir Caerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Ceredigion, Sir Benfro, Nedd Port Talbot ac Abertawe arbed 10% o gostau yn flynyddol.

“Roedd cyfnod cynnar y prosiect, y cyfnod ymchwil a dadansoddi, yn ei hunan wedi dangos arbedion o £40,000 ar gyfer 2010/2011,” meddai Lyn Thomas, Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol Cyngor Sir Gaerfyrddin sy’n arwain y cynllun.

“Mae’n amlwg bod mwy i ddod wrth i’r cynllun sefydlu eu hunan yn weithredol o ddydd i ddydd. Rydyn ni’n amcangyfrif y bydd y cynllun yn arbed 10% o’n costau presennol pob blwyddyn.”

Fe ddaw’r datblygiad wrth i’r Gweinidog Addysg yng Nghaerdydd ddweud bod eisiau trafod cyfuno rhai o’r awdurdodau addysg lleol.

Mae Prifysgol Abertawe, Cymdeithas Awdurdodau Lleol Cymru a chynllun Gwerth Cymru’r Cynulliad hefyd yn cefnogi’r cynllun.

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi