Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cyfaddef nad oedd o’n gwybod am gynllun Cyngor Caerdydd i godi ysgol newydd Gymraeg yn Nhreganna erbyn 2013.

Y bwriad yw codi ysgol Gymraeg newydd sbon ar Ffordd Sanatorium, Treganna ar gost o £9 miliwn gyda’r cyngor yn cyfrannu peth o’r arian yn ogystal â’r llywodraeth.

Roedd Carwyn Jones wedi gwrthod cynlluniau gwreiddiol y Cyngor i ad-drefnu addysg yng ngorllewin y ddinas drwy symud Ysgol Treganna, sy’n orlawn, i safle Ysgol Lansdowne.

“Gwnaeth y cyngor y datganiad hwn heb ein bod ni’n gwybod amdano fe ond fe edrychwn ni ar unrhyw gynlluniau sydd ganddyn nhw,” meddai Carwyn Jones.

“Dy’n ni ddim wedi cael unrhyw bid eto a dy’n ni ddim wedi gweld unrhyw gynlluniau eto. Ond … fel r’yn ni wastad wedi dweud byddwn ni’n fodlon ystyried unrhyw gynllun maen nhw’n dodi mlaen.”

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi