Mae angen rhoi’r gorau i ddysgu Cymraeg fel ail iaith, a sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn cael y cyfle i ddysgu’r iaith at yr un safon.

Dyna farn yr Aelod Cynulliad sydd wedi bod yn cadeirio ymchwiliad i’r ffordd mae disgyblion mewn ysgolion Saesneg yng Nghymru yn dysgu Cymraeg.

Oherwydd ei fod yn poeni am y drefn o ddysgu Cymraeg i’r 80%+ o blant sydd ddim yn siarad yr iaith, mi gyflwynodd y cyn-Brifathro Gareth Jones ddadl fer yn y Cynulliad y llynedd yn tynnu sylw at ddiffygion y drefn bresennol.

Mae Is-Bwyllgor Menter a Dysgu’r Cynulliad wedi ymchwilio i’r maes ac fe fydd adroddiad ar ddysgu Cymraeg ail iaith yn cael ei gyhoeddi yr wythnos nesa’.

“Mae’r sefyllfa fel ag y mae nid yn unig yn methu ein plant,” meddai Gareth Jones, “mae’n eu troi nhw yn erbyn y Gymraeg ac mae’r difaterwch ar bob lefel yn… dorcalonnus ac anfoesol.”

O dan y drefn bresennol, gall ysgolion Saesneg ddewis dysgu cyn lleied ag awr o Gymraeg bob pythefnos, ac mae’r corff arholi Estyn yn dweud fod y sefyllfa yn mynd o ddrwg i waeth.

Yn ôl adroddiad y llynedd: ‘Mae’r addysgu mewn Cymraeg ail iaith yn waeth o lawer nag mewn pynciau eraill – ac mae’n waeth yn awr nag yn y gorffennol.”

Darllenwch weddill y stori yng Nghylchgrawn Golwg, 23 Medi