Mae llofrudd wedi mynd ar goll o garchar agored yn Sir Fynwy, yn ôl yr heddlu heddiw.

Cafwyd Wyndham Richard Thomas, 33, yn euog o lofruddiaeth ym 1997, ac roedd yn y carchar agored fel rhan o’i ddedfryd oes.

Mae Heddlu Gwent wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu, wedi iddo ddianc o’r carchar ym Mhresgoed.

Credir y gallai’r dyn fod yn fygythiad i’r cyhoedd gan nad yw bellach dan ofal y Gwasanaeth Carchardai.

Mae’n debyg fod gan Wyndham Richard Thomas gysylltiadau ar draws De Cymru, yn enwedig yng Nghaerffili a Maesteg.

Cais Heddlu Gwent

Mae Heddlu Gwent wedi rhoi cynllun ar waith i ddod o hyd iddo, ac mae’r carchar yn cyd-weithio’n llawn.
Mae’r dyn yn 5”7, mae e o faint canolig, ac mae ganddo graith ar ochr dde ei ben.

Dywedodd Heddlu Gwent na ddylai unrhyw un fynd yn agos ato, ac y dylen nhw ffonio 01633 838111 yn lle.