Fe fydd bachgen 13 oed yn cael ei gyfeirio at banel disgyblu ar ôl saethu ei athro yn ei wyneb gyda gwn peli, meddai cadeirydd llywodraethwyr yr ysgol heddiw.

Crafodd y bel wyneb Darren Jones pennaeth addysg gorfforol Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais, pan gafodd ei saethu tua 9.30am ddoe.

Cafodd y bachgen yn yr ysgol 540 disgybl ei gymryd i’r ddalfa, meddai Heddlu Dyfed-Powys.

Dywedodd Hugh Pattrick, 64, sydd wedi bod yn gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol ers mwy na 10 mlynedd, bod beth ddigwyddodd wedi bod yn “sioc anferth” i’r gymuned.

“Fe fydd y panel disgyblu yn ystyried y mater yma ac yn anffodus fe fydd hyn yn smotyn du ar fywyd y llanc,” meddai.

“Mae hon yn ysgol ofalgar iawn ac yn gymuned glos. Mae hyn wedi bod yn sioc anferth.”

Dywedodd Hugh Pattrick nad oedd o’n siŵr pryd y byddai Darren Jones yn dychwelyd i’r gwaith.

“Roedd o wedi cael dipyn o fraw felly dw i ddim yn gwybod a fydd o yn ôl heddiw,” meddai.

“Roedd y pennaeth wedi delio â’r mater yn dda iawn. Fe wnaeth hi gasglu’r holl blant yn y neuadd a dweud beth oedd wedi digwydd.

“Fe aeth rhai o’r plant adref gyda’u rheini ond roedd y diwrnod ysgol wedi mynd yn ei flaen fel arfer ac fe fydd o’n parhau i wneud hynny.”