Rhaid i’r heddlu wneud mwy er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ôl prif arolygydd yr heddlu.
Dywedodd Syr Denis O’Connor nad oedd atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cael ei weld fel “gwaith heddlu go iawn” ac nad oes ganddo “yr un statws â throsedd o fewn yr heddlu”.
Mae heddweision wedi “encilio o’r strydoedd” ers y 1970au gan “danseilio eu cysylltiad nhw gyda’r cyhoedd”.
Ond mae’n rhaid i’r heddlu ar draws Prydain sylweddoli mai nhw yw’r awdurdod cyntaf mae’r cyhoedd yn troi atyn nhw pan maen nhw’n dioddef o ganlyniad i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
“Dyw’r cyhoedd ddim yn gwahaniaethu rhwng ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd. Maen nhw’n ei weld fel rhywbeth sy’n achosi gofid.”
Dywedodd mai dim ond chwarter y wybodaeth am bob digwyddiad gwrthgymdeithasol oedd yn cyrraedd yr heddlu a bod cymunedau yn “dechrau arfer gyda phethau na ddylen nhw fod wedi dod i arfer â nhw”.
Ychwanegodd ei fod o’n pryderu y byddai’r toriadau a fydd yn cael eu cyhoeddi fis nesaf yn lleihau gallu’r heddlu i warchod y strydoedd.
“Y peth cyntaf sydd wedi mynd ydi’r heddwas ar y stryd ac rydw i’n meddwl bod hynny wedi bod yn gamgymeriad,” meddai wrth raglen Today Radio 4.
“Dydw i ddim yn meddwl bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn mynd i ostwng wrth i ni fynd i mewn i gyfnod o galedi ariannol.
“Does yna ddim digon o heddweision ar gael ar hyn o bryd, ac os ydi nifer yr heddweision yn disgyn eto, wela’i ddim llawer o obaith i bobol.”
(Llun: Graffiti – PA)