Mae llyfr newydd am weinyddiaeth Barack Obama wedi datgelu ffrae mewnol tanbaid yn y Tŷ Gwyn ynglŷn a’u strategaeth yn Afghanistan.
Mae’r llyfr Obama’s Wars gan y newyddiadurwr Bob Woodward yn dweud nad oedd rhai o ymgynghorwyr blaenllaw yr Arlywydd yn gallu cytuno ynglŷn a’r ffordd ymlaen.
Roedd Bob Woodward yn un o’r newyddiadurwyr wnaeth ddatgelu sgandal Watergate a arweinodd at ymddiswyddiad yr Arlywydd Richard Nixon.
Roedd o wedi cyfweld rhai o aelodau blaenllaw y weinyddiaeth ar gyfer y llyfr, gan gynnwys Barack Obama ei hun.
Yn y pen draw penderfynodd Barack Obama gynnyddu nifer y milwyr yn Afghanistan ond yn ôl y llyfr doedd ei ymgynghorydd pennaf ddim yn credu y byddai’r strategaeth yn gweithio.
Roedd Barack Obama wedi dweud mai “dim ond dwy flynedd fyddai’r cyhoedd yn fodlon disgwyl” i bethau wella yn y wlad, a’u fod o’n teimlo bod rhaid iddo osod dyddiad er mwyn gadael Afghanistan “neu golli cefnogaeth y Blaid Ddemocrataidd gyfan”.
Er bod rywfaint o wybodaeth ynglŷn a’r anghytundeb o fewn y Tŷ Gwyn eisoes yn gyhoeddus mae’r llyfr yn awgrymu bod y dadlau’n fwy tanbaid na’r disgwyl.
Dywedodd llefarydd ar ran y Tŷ Gwyn bod y llyfr yn dangos bod yr Arlywydd yn arweinydd dadansoddol a phendant.