Mae tîm criced Morgannwg wedi colli eto yng nghystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast, wrth i Swydd Northampton eu trechu o bedair wiced yn y belawd olaf yn Edgbaston – pedwaredd buddugoliaeth y Saeson o’r bron yn y gystadleuaeth.

Sgoriodd y Gwyddel Andrew Balbirnie 58 oddi ar 38 o belenni, gan gynnwys pum pedwar ac un chwech, a tharodd Dan Douthwaite 23 oddi ar 13 o belenni wrth i’r sir Gymreig sgorio 160 am saith.

Cipiodd Nathan Buck bedair wiced am 29 yn ei bedair pelawd i’r Saeson.

Ond roedd hi’n annhebygol o’r dechrau y byddai’r sgôr yn ddigon, wrth i Richard Levi (28) a Paul Stirling (22) ymlwybro’n hamddenol yn y pelawdau agoriadol.

Tarodd Alex Wakely 36 oddi ar 29 o belenni i’r Saeson wrth iddyn nhw gyrraedd y nod gyda phedair pelen yn weddill, gyda’r troellwr o Gasnewydd Callum Taylor yn cipio dwy wiced am naw a Marchant de Lange hefyd yn cipio dwy wiced i gadw’r sir Gymreig yn y gêm hyd y diwedd.

Roedd safon maesu’r ddau dîm yn gampus, gyda Saif Zaib yn cipio tri daliad, gan gynnwys un acrobataidd ag un llaw ar y ffin i waredu Graham Wagg.

Roedd ymdrechion Callum Taylor i Forgannwg hefyd yn glodwiw er yn ofer yn y pen draw, wrth iddo fe berfformio’n dda yn y maes a bowlio Ricardo Vasconcelos ar adeg bwysig yn y batiad, a chipio chwip o ddaliad oddi ar ei fowlio’i hun i waredu Saif Zaib.