Bydd naw o chwaraewyr Caerdydd ddim ar gael i herio Northampton yn y Caraboa Cup ddydd Sadwrn (Medi 5).

Daw hyn yn sgil cyfuniad o anafiadau a dyletswydd ryngwladol.

Mae Will Vaulks and Kieffer Moore (Cymru), Callum Paterson (Alban), Gavin Whyte (Gogledd Iwerddon) and Mark Harris and James Waite (Cymru o dan 21) i gyd gyda’u timau rhyngwladol.

Ni fydd Lee Tomlin a Joe Ralls ar gael oherwydd anafiadau, tra bod Nathaniel Mendez-Laing yn absennol oherwydd problemau personol.

Gallai asgellwr cefn Arsenal Jordi Osei-Tutu chwarae i’r clwb am y tro cyntaf ar ôl ymuno â Chaerdydd ar fenthyg.

Bydd y gig gyntaf am 3yh ddydd Sadwrn (Medi 5).