Mae lluoedd arfog Mali yn addo trefnu etholiad arlywyddol ar ôl gorfodi Ibrahim Boubacar Keita i ymddiswyddo dan bwysau.
Dywed y milwyr mai nhw yw’r Pwyllgor Cenedlaethol ar gyfer Iachawdwriaeth y Bobol, ac maen nhw’n cael eu harwain gan Ismael Wague.
Mae Ismael Wague wedi cyhoeddi bod ffiniau’r wlad ynghau a bod cyrffiw yn dod i rym rhwng 9yh a 5yb wrth geisio “adfer y wlad hon i’w mawredd blaenorol”.
Mae protestwyr gwrth-lywodraeth wedi croesawu a dathlu ymadawiad yr arlywydd wrth ymgasglu yn y brifddinas Bamako.
Ond mae gwledydd ar draws y byd yn poeni am ddyfodol y wlad yn sgil ei ymadawiad.
Bydd Cyngor Diogelwch yn cyfarfod y prynhawn yma (dydd Mercher, Awst 19) i drafod y sefyllfa yn y wlad lle mae ganddyn nhw 15,600 o bobol yn ymwneud â chadw heddwch.
Roedd gan Ibrahim Boubacar Keita dair blynedd o’i dymor yn weddill, ar ôl cael ei ethol yn ddemocrataidd yn 2013 a’i ailethol yn 2018.
Ond mae wedi colli ei boblogrwydd bob yn dipyn, gyda phrotestwyr yn galw ar iddo ymddiswyddo ers mis Mehefin, ac mae trafodaethau i geisio tawelu’r protestiadau wedi methu.
Fe wnaeth y milwyr ei orfodi i ymateb wrth iddyn nhw saethu i’r awyr, ac fe gafodd e a’r prif weinidog eu cadw yn y ddalfa rai oriau’n ddiweddarach cyn iddo ymddangos ar y teledu gyda’r capsiwn “arlywydd sydd ar fin ymadael”.
Dywedodd wedyn ei fod e wedi penderfynu camu o’r neilltu ac nad oedd yn dymuno “tasgu gwaed neb er mwyn aros mewn grym”.
Daeth cadarnhad hefyd y bydd ei lywodraeth a’r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu diddymu.