Ifan Morgan Jones sy’n edrych ar Gemau’r Gymanwlad yn India…
China ac India. Dwy wlad sy’n awyddus iawn i gadarnhau eu statws yn bwerau mawr newydd ar lwyfan y byd. Dwy wlad oedd â problemau gyda’u delwedd, ac a benderfynodd mai ffordd da o ail-frandio eu hunain fyddai cynnal cystadleuaeth chwaraeon anferth. Un yn mynd am y Gemau Olympaidd, a’r llall yn mynd am Gemau’r Gymanwlad. Un yn gwneud llwyddiant anferth ohoni a gwneud argraff wych ar weddill y byd, a’r llall…
Wel mae gan India dipyn o waith i’w wneud er mwyn achub y trychineb yma. A hyd yn oed os ydi pentref yr athletwyr yn cael ei sgrwbio o’r top i’r gwaelod a’r gemau eu hunain yn llwyddiant mawr fydd neb yn anghofio’r bont yna’n disgyn i lawr.
Y gofid pennaf ydi bod yr holl chwlfa wedi atgyfnerthu rhai o’r rhagfarnau gwaethaf am India. Lle budr, anhrefnus, llygredig. Nid dyna’r gwir – wedi’r cwbwl, roedd y cyfleusterau yn cael eu clodfori fel y rhai gorau erioed cyn i law y monswn gyrraedd a difetha’r holl waith caled – ond dyna’r argraff sy’n aros yn y cof.
Y wers ydi, os ydach chi’n gwahodd chwyddwydr y byd arnoch chi’ch hun, gwnewch yn blydi siwr nad oes dim byd yn mynd o’i le.
Yr wythnos nesaf bydd dwy filiwn o bobol yn gwylio’r Cwpan Ryder yng Nghymru. Gulp!
(O.N. Ai fy nychymyg i yw hi ta ydi’r adeilad yma, stadiwm chwaraeon Thyagaraj, yn edrych yn hynod o debyg i’n Senedd annwyl ni ym Mae Caerdydd?)