Mae un o gyn uwch swyddogion Swyddfa Archwilio Cymru wedi derbyn £750,000 am ymddeol yn gynnar, datgelwyd heddiw.
Dywedodd y swyddfa eu bod nhw’n disgwyl y bydd rhaid talu £750,838.66 dros gyfnod o ddeng mlynedd fel rhan o becyn diswyddo’r cyn brif swyddog gweithredol, Anthony Snow.
Fe gafodd daliad o £107,580 ar ôl gadael ei swydd a chyfraniad o £63,700 tuag at ei bensiwn blynyddol tan ei fod o’n 60 oed.
Roedd y pensiwn hael wedi ei awdurdodi gan y cyn archwiliwr cyffredinol, Jeremy Colman, ond doedd o ddim wedi dweud wrth bwyllgor rheoli Swyddfa Archwilio Cymru.
Daeth maint y taliad i’r amlwg yn dilyn cais rhyddid gwybodaeth gan yr Aelod Cynulliad Leanne Wood.
Dywedodd hi y byddai’n gofyn am gyfarfod gyda’r archwilydd cyffredinol nesaf, Huw Vaughan Thomas, pan oedd o’n dechrau ei swydd fis nesaf.
Pwy sy’n archwilio’r archwilwyr?
Mewn llythyr at Leanne Wood dywedodd yr Archwiliwr Cyffredinol dros dro, Gilian Body, y byddai cyflog Anthony Snow ar gyfer yr un cyfnod wedi costio tua £2 filiwn a dyna pam bod ei becyn diswyddo mor hael.
“Rhaid cael sustem lle mae’r Cynulliad yn gallu archwilio gwaith y Swyddfa Archwilio fel y maen nhw’n archwilio gweithgaredd cyrff cyhoeddus eraill,” meddai Leanne Wood.
“Rydw i’n synnu bod y cyn Archwilydd Cyffredinol wedi gallu awdurdodi cytundeb werth mwy nag £750,000 heb roi gwybod i’w dim rheoli.
“Rydan ni’n siarad am arian cyhoeddus ac unwaith eto mae’n tanlinellu’r angen i fynd i’r afael â mater tâl y gweithwyr cyhoeddus sy’n ennill y cyflogau mwyaf.”
Gadawodd Anthony Snow Swyddfa Archwilio Cymru ym mis Medi 2009 ar ôl gweithio yno ers 1990.