Mae’r heddlu’n credu bod dau berson a laddodd eu hunain wedi cwrdd a’i gilydd ar y wê oriau yn unig cyn iddyn nhw farw.
Cafodd cyrff Stephen Lamb, 35, o Orllewin Efrog, a Joanne Lee, 34, o Swydd Essex, eu darganfod mewn car wedi ei barcio ger ystad ddiwydianol ddydd Llun.
Mae’n debyg bod y ddau wedi dod i gysylltiad ar fforwm yn trafod hunanladdiad ar y rhyngrwyd.
Fe yrrodd y gyrrwr loriau, Stephen Lamb, 200 milltir i Swydd Essex i gwrdd â Joanne Lee wedi iddyn nhw gyfarfod ar y wefan.
Yn ôl papur The Sun, fe ysgrifennodd Joanne Lee ei bod hi wedi cyrraedd “pen ei thennyn,” ar Fedi 4, a’i bod hi eisiau lladd ei hun “cyn gynted â phosib”.
“Does gen i ddim o’r nerth i neud hyn ar fy mhen fy hun. Dydw i ddim yn aelod o’r heddlu, dydw i ddim yn ganibal, nac yn lofruddwraig, dwi jyst yn despret. Mae gen i’r cynhwysion i gyd, a dw’i am ei wneud e mor gynted â phosib.”
Daethpwyd o hyd i’r cyrff mewn car llawn nwyon, gyda nodyn ar y ffenestr yn rhybuddio am gemegion tocsig tu fewn.
Mae’n debyg fod Joanne Lee yn dioddef o salwch bwyta difrifol, a’i bod hi wedi defnyddio’r fforwm i gael cyngor i greu cymysgfa tocsig er mwyn ei lladd ei hun.
Cafodd y cyrff eu darganfod fore Sadwrn gan weithwr warws, ond mae’n bosib fod y car wedi bod yno drwy’r penwythnos.