Mae’r cyfansoddwr Eric Whitacre yn chwilio am gannoedd o bobl i dorri record y byd am y côr ar-lein mwyaf erioed.
Mae Eric Whitacre eisiau i unigolion recordio rhannau unigol o’r gan a’u huwchlwytho nhw i wefan YouTube ble fydd e’n eu gludo nhw i gyd gyda’i gilydd i greu môr o leisiau.
Y person cyntaf i gymryd rhan oedd Gitarydd fas Blur, Alex James.
Yn ôl y cyfansoddwr, “mae hyn yn profi nad oes rhaid i chi fyw mewn dinas fawr i fod yn rhan o’r sîn diwylliannol. Mae’r prosiect hyn yn agored i unrhywun, o Manhattan i’r Maldives”.
Mae’r record presennol yn cynnwys 900 o gantorion. Mae gan unrhyw gantorion hyd at ddiwedd y flwyddyn i gymryd rhan yn yr ymgais.
“Rydw i wedi teimlo erioed fod y datblygiad digidol diweddar yn beth gwych i gefnogwyr cerddoriaeth, o ran gwrando a chymryd rhan,” meddai Alex James.
“Rydw i wrth fy modd yn arwain rhywbeth dwi’n credu fydd yn gam mawr ymlaen i gerddoriaeth glasurol – ac, yn wir, pob math o gerddoriaeth.
“Dwi’n gobeithio y bydd hwn yn bennod gyffrous yn hanes cerddoriaeth i Genhedlaeth yr YouTube.”
(Llun: Un o fideoau YouTube Eric Whitacre)