Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gofyn iddo ymchwilio i honiad bod y Gweinidog Iechyd Edwina Hart wedi camarwain y Cynulliad.
Mewn llythyr at Carwyn Jones dywedodd “ei bod hi nawr yn glir bod eich gweinidog chi wedi cuddio dogfen o bwysigrwydd allweddol i’r gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru”.
Dywedodd mai nod Edwina Hart oedd “cuddio beirniadaeth ynglŷn â’u harweinyddiaeth hi tros ei hadran”.
“Sut allen ni ganiatáu i’r gweinidog iechyd ddweud wrth Aelodau Cynulliad nad ydi adroddiad yn bodoli, pan mae’n amlwg ei fod o?”
Mae Edwina Hart wedi parhau i wadu ei bod hi wedi ceisio cuddio bodolaeth y ddogfen sy’n rhestru gwendidau arweinyddiaeth y gwasanaeth iechyd gwladol yng Nghymru.
Gwadu
Mae Kirsty Williams yn dweud bod dogfen 75 tudalen gan gwmni ymgynghori McKinsey wedi dod i’w llaw hi er bod Edwina Hart wedi gwadu bod y fath ddogfen yn bodoli.
Yn ystod trafodaethau yn y Senedd mynnodd Edwina Hart mai “dogfen trafod” oedd o a “nad oes yna adroddiad gan McKinsey”.
“Does yna ddim cyfrinachau yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae yna bob tro wybodaeth yn diferu allan.
“Mae’r ddogfen ydach chi’n cyfeirio ati wedi bod yn mynd trwy ddwylo’r prif weithredwyr ers cryn dipyn o amser.
“Mae’n ddrwg gen i ddweud nad oes yna unrhyw stori newyddion mawr yn hyn, faint bynnag ydych chi’n digio a phwdu.”
Ychwanegodd bod ganddi “berthynas gwych” gyda’i hadran a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.