Mae newyddiadurwr o Awstralia yn honni iddo ddod o hyd i wall difrifol yn system diogelwch Gemau’r Gymanwlad yn New Delhi.

Oriau’n unig wedi i athletwyr Lloegr gyhoeddi eu bod yn tynnu allan o’r digwyddiad oherwydd pryderon diogelwch, mae Channel 7 Awstralia yn dweud bod un o’u newyddiadurwyr wedi cerdded i mewn i’r prif stadiwm gyda bom.

Yn ôl y sianel, fe aeth un o’i newyddiadurwyr, Mike Duffy, i mewn i’r stadiwm gyda siwtces yn cynnwys digon o ddeunydd ffrwydrol i greu 200 bom.

“Roedd ’na glwyd ddiogelwch melyn Heddlu Delhi wrth y Stadiwm,” meddai Mike Duffy wrth sianel newyddion Indiaidd CNN-IBN. “Gyrrodd ceir yr heddlu i mewn, ac fe ddilynias i drwodd. Tra bod eu sylw nhw ar y ceir, fe lithrais i mewn gyda fy siwtces mawr.

“Roedd dwsinau o heddlu yno, ond gofynnodd neb unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r siwtces. A doedd hwn ddim yn ges arferol chwaith.

“Roedden ni yno am 15 munud, a chawson ni ddim ein stopio unwaith.”

Mae’r newyddion yn ergyd arall i’r Pwyllgor Trefnu, ar ol i’r gwledydd sydd eisoes wedi teithio i’r gemau gwyno bod pentref yr athletwyr yn frwnt.

Mae pryderon hefyd am isadeiledd y gemau ar ol i font chwalu ddoe gan anafu 27 o bobol, a rhan o do y prif stadiwm gwympo heddiw.

Ymateb India

Condemniodd llefarydd ar ran Heddlu Delhi, Rajan Bhagat, “gynllun” y newyddiadurwr.

“Does dim tynhau diogelwch wedi bod yn stadiwm Jawaharlal Nehru eto. Pan fydd ‘na dynhau diogelwch, fe alla’i eich sicrhau chi, fydd neb yn gallu cael mynediad heb ganiatad.

“Mae’r stori yma wedi ei chreu’n bwrpasol, er mwyn lledaenu newyddion camarweiniol.”