Mae’r Gweinidog Treftadaeth wedi dweud bod S4C yn hwb i economi Cymru yn ogystal â hwb i’r iaith wrth amddiffyn y sianel heddiw.

Dywedodd Alun Ffred Jones ei fod o wedi atgoffa Adran Ddiwylliant Llywodraeth Prydain na ddylai anwybyddu ei dyletswydd statudol dros ariannu S4C.

Roedd o wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, gan ofyn am sicrwydd na fydd y toriadau arfaethedig yn mynd yn groes i Ddeddf Darlledu 1990.

Yn ôl Clive Lewis QC, cwnsler Llywodraeth y Cynulliad, does gan y Llywodraeth ddim yr hawl gyfreithiol i dorri cyllideb S4C, ond fe allen nhw greu deddfwriaeth newydd er mwyn gwneud hynny.

Dywedodd Alun Ffred Jones y bydd o hefyd yn cyfarfod â Mr Hunt er mwyn trafod y mater yr wythnos nesaf.

Datganiad

Mewn datganiad i Aelodau’r Cynulliad heddiw dywedodd Mr Jones ei fod yn pryderu ynglŷn â’r toriadau arfaethedig yng nghyllid S4C ac fe ailadroddodd cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad i’r sianel.

Dywedodd bod S4C wedi cyfrannu’n fawr tuag at dwf sector annibynnol y cyfryngau, ac at economi greadigol Cymru yn ehangach.

“Mae’r diwydiannau creadigol yn gwneud cyfraniad hanfodol i’n heconomi ac maen nhw wedi cael eu cydnabod fel sector allweddol yn ein cynlluniau i arwain Cymru tuag at adferiad economaidd,” meddai.

“Wrth ddynesu at 30 mlynedd o ddarlledu, mae S4C wedi chwarae rhan flaenllaw yn hyrwyddo a diogelu’r iaith Gymraeg, trwy ddod â hi i gartrefi pobl yn ddyddiol.

“Mae gan S4C ran allweddol i’w chwarae i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn parhau i oroesi. O ran hyn, nid darlledu yn unig yw ei swyddogaeth.”

Cyllid

Ychwanegodd Alun Ffred Jones bod yna resymau da dros ddeddfwriaeth i warantu lefel cyllid i S4C.

“Crëwyd S4C trwy statud i sicrhau sefydlogrwydd ac annibyniaeth hirdymor y sefydliad. Roedd ei dyletswyddau, cyfrifoldebau a’ threfniadau ariannu wedi gosod yn y gyfraith am resymau da iawn.

“Ni ddylai’r Adran Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon anwybyddu eu hymrwymiadau statudol tuag at y sianel a ni ddylid anghofio bod S4C yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus, ac nid yn Adran y Llywodraeth neu gorff llywodraethol anadrannol.

“Dylid trin S4C yn yr un ffordd â darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill o ran y trafodaethau ynglŷn â’i dyfodol hirdymor a chyllido.”