Clywodd llys heddiw bod siopwr wedi rhybuddio giard diogelwch ei fod o’n tagu lleidr i farwolaeth mewn marchnad siopa brysur.

Trodd Aaron Bishop, 23 yn biws a marw wrth i siopwyr wylio yng nghanolfan siopa Quadrant yn Abertawe ym mis Gorffennaf y llynedd.

Dywedodd Samantha Gregory wrth y rheithgor ei bod hi wedi meddwl bod y lleidr yn ddyn croentywyll oherwydd bod ei wyneb o wedi tywyllu cymaint ar ôl cael ei wasgu gan y giard.

Roedd y cyn filwr Aaron Bishop wedi dwyn potel £35 o bersawr Joop! o siop Debenhams. Cafodd ei ddal gan bedwar giard diogelwch a ddaliodd ef yn ei le tan bod yr heddlu’n cyrraedd.

Mae’r giard diogelwch Sam Bawden, 25, o Gastell-nedd, yn gwadu dynladdiad.

Clywodd Llys y Goron Abertawe ei fod o wedi dweud wrth un siopwr i “fynd i grafu” wrth i hwnnw ei rybuddio bod Aaron Bishop yn marw.

Ceisio anadlu

“I ddechrau roeddwn i’n meddwl ei fod o’n ddyn croen tywyll oherwydd lliw ei ben,” meddai Samantha Gregory. “Yna fe sylwais i bod lliw ei freichiau a’i goesau yn wahanol a sylweddolais ei fod o’n wyn.

“Roedd ei ben o’n biws. Roedd o’n cael ei ddal gerfydd ei wddf ac roedd hynny wedi newid ei liw.”

Ychwanegodd fod dau ddyn yn dal ei goesau, dau arall yn dal ei freichiau, a Sam Bawden yn gafael yn ei wddf.

“Doedd y dyn ddim yn gwneud dim byd. Roedd ei wyneb i lawr ar y concrit. Roedd o’n ceisio anadlu,” meddai.

“Doedd o’n sicr ddim y ffordd i ddal rhywun o gwmpas ei wddf. Roedd o’n cael ei ddal i lawr gan y dynion eraill, doedd dim angen ei ddal o gwmpas ei wddf.”

Dywedodd ei bod hi wedi clywed Aaron Bishop yn dweud nad oedd o’n gallu anadlu. Roedd hi wedi colli ei thymer gyda’r giard diogelwch, meddai.

“Yna dwi’n meddwl daeth rheolwr ata’i a dweud eu bod nhw wedi eu hyfforddi i ddal pobol a’u bod nhw’n gwybod beth oedden nhw’n ei wneud.”