Fe fydd Virginia yn dienyddio gwraig am y tro cyntaf mewn bron i ganrif, yfory.

Fe fydd Teresa Lewis yn cael ei lladd gan bigiad marwol, ar ôl i Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau wrthod gwrthdroi’r penderfyniad.

Cafwyd hi’n euog o dalu dau ddyn â rhyw ac arian i lofruddio ei gŵr a’i llysfab ym mis Hydref 2002, er mwyn iddi hi allu hawlio $250,000 o arian yswiriant.

Daeth gorchymyn y Goruchaf Lys ar ôl i Lywodraethwr Virginia, Bob McDonnell, wrthod ystyried cais am drugaredd ddydd Gwener ddiwethaf.

Y gosb eithaf

Daw’r newyddion ar yr un diwrnod ag y mae gwleidydd wedi galw am ailgychwyn gweithredu’r gosb eithaf yn nhalaith Califfornia.

Roedd barnwr wedi gohirio’r gosb yn 2006, gan orchymyn i swyddogion carchardai i newid y modd y mae’r gosb yn cael ei weithredu, fel bod y carcharorion yn dioddef llai.

Ond yn ôl ymgeisydd plaid y Democratiaid i fod yn Llywodraethwr y dalaith, y Twrnai Cyffredinol Jerry Brown, mae’n bryd iddyn nhw ail ddechrau mor gynnar ag wythnos nesaf.

Mae ei ddatganiad yn dipyn o dro pedol mae’n debyg, gan ei fod yn arfer bod yn wrthwynebydd croch i’r gosb eithaf.

Mae o mewn cystadleuaeth glos â’r ymgeisydd o blaid y Gweriniaethwyr, Meg Whitman, mewn etholiad i olynu’r Llywodraethwr Gweriniaethol presennol, Arnold Schwarzenegger.