Mae’r Aelod Cynulliad Darren Millar wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatgelu beth maen nhw’n ei wneud er mwyn paratoi ar gyfer y gaeaf yma.
Dywedodd ei fod o’n hanfodol dechrau paratoi ynghynt eleni ar ôl yr eira mawr a’r problemau diffyg halen ffordd dros y gaeaf diwethaf.
Doedd disgyblion ddim yn gallu cyrraedd ysgolion a nifer o bobol wedi colli gwaith oherwydd yr eira dechrau’r flwyddyn.
Mae rhagolygwyr y tywydd yn dweud y bydd y gaeaf yn oerach na’r arfer eto eleni.
“Mae’n rhaid i ni fod yn siŵr bod y Llywodraeth a chynghorau lleol wedi cymryd camau priodol er mwyn sicrhau nad ydi tywydd difrifol yn arwain at sefyllfa debyg y gaeaf yma,” meddai Aelod Cynulliad Gorllewin Clwyd.
“Mae’n rhaid cynllunio nawr er mwyn sicrhau bod yna ddigon o halen, bod ysgolion yn aros ar agor a bod yna fynediad i’n cyfleusterau iechyd,” meddai.
Dywedodd ei bod hi’n bwysig gofalu am bobol hyn sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell, a sicrhau eu bod nhw’n gallu gwresogi eu cartrefi.
Ychwanegodd ei fod o’n dal i bryderu am safon y ffyrdd yng Nghymru, a nad oedd yr holl ddifrod a wnaethpwyd i’r ffyrdd y gaeaf diwethaf wedi ei drwsio eto.
“Rydym ni hefyd angen y wybodaeth ddiweddaraf am faterion cynnal a chadw ffyrdd yn dilyn toriadau mewn arian oedd ar gael ar gyfer atgyweirio ffyrdd y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.
“Mae ffyrdd Cymru dal yn llawn tyllau a bydd hyn yn sicr o waethygu os na fydd y wlad yn briodol ar gyfer y gaeaf i ddod.”