Mae arlywydd Iran wedi beio busnesau mawr am achosi tlodi miliynau o bobol, ac wedi honni y bydd cyfalafiaeth yn cael ei “gorchfygu” yn y pen draw.
Mae Mahmoud Ahmadinejad hefyd wedi galw am ddiwygio sefydliadau rhyngwladol gwleidyddol ac economaidd “anemocrataidd ac anghyfiawn,” sy’n cael eu “rheoli” gan yr Unol Daleithiau a grymoedd Gorllewinol eraill.
Daeth ei sylwadau yn ystod araith yng nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd er mwyn mynd i’r afael â thlodi rhyngwladol.
Mae dros 140 o arweinwyr wedi mynd i’r gynhadledd, er mwyn trafod sut i gael gwared ar dlodi, afiechydon, ac anghydraddoldeb rhwng y cyfoethog a’r tlawd, erbyn 2015.
Yr Almaen
Ar yr un diwrnod, traddododd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, araith oedd yn mynd yn gwbl groes i eiriau Mahmoud Ahmadinejad.
Dadleuodd mai’r farchnad ac economi gyfalafol gryf, a llywodraethu da, yw’r ateb ar gyfer tynnu’r gwledydd sydd wedi datblygu lleiaf, allan o dlodi.
Mae adroddiadau diweddar wedi dangos nad ydi nifer o wledydd tlotaf y byd, yn enwedig o gwmpas y Sahara yn Affrica, wedi cymryd camau pendant tuag at leddfu tlodi.
Mae pryderon hefyd nad oes digon yn cael ei wneud er mwyn lleihau nifer y plant sy’n marw, ac i ddarparu offer glanweithdra sylfaenol, a hybu cydraddoldeb gwragedd, mewn gwledydd tlawd.