Mae dyn wedi cael ei garcharu am naw wythnos am ladd ei fochdew anwes drwy ei gloi mewn microdon.
Cafodd Anthony Parker, 29, o Holyrood Way, Teesside, ei wahardd rhag cadw anifeiliaid am bum mlynedd gan lys ynadon y dref.
Cyfaddefodd iddo roi’r bochdew yn y microdon ar ôl dadl feddw gyda’i gariad ar 23 Chwefror.
“Doeddwn i ddim wedi bwriadu ei lladd hi,” meddai wrth swyddogion yr heddlu. “Hi oedd y bochdew orau ges i erioed. Suzie oedd ei henw hi.”
Daeth yr heddlu o hyd i Suzie mewn bin olwynion gwyrdd y tu allan i’r tŷ. Ond dangosodd archwiliad post-mortem bod ôl ymbelydredd y microdon ar y bochdew .
Dywedodd yr erlynydd Neil Taylor ei fod o wedi lladd y bochdew mewn ffordd gas.
“Mae’n amlwg bod y bochdew wedi marw mewn poen ingol,” meddai.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y RSPCA na ddylai neb drin y mater fel un doniol “am ei fod o’n fochdew yn unig”.
“Maen nhw’n dioddef yr un fath a chathod, cŵn a cheffylau,” meddai.