Mae mudiad True Wales wedi dweud eu bod nhw’n barod i ddechrau eu hymgyrch dros bleidlais ‘Na’ ar gyfer refferendwm y Cynulliad ar fwy o bwerau.
Ond, diwrnod ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad gyhoeddi dyddiad tebygol y refferendwm,, mae nhw wedi galw am ei newid hi er mwyn sicrhau bod mwy yn pleidleisio.
“Rydan ni’n barod am y frwydr,” meddai Rachel Banner o Bont-y-pŵl, sy’n llefarydd ar ran True Wales, wrth Golwg 360.
“Ond r’yn ni’n teimlo y byddai wedi bod yn well cynnal y bleidlais yr un diwrnod ag etholiadau’r Llywodraeth. Byddai mwy wedi pleidleisio ac fe fyddai hefyd wedi costio llai.
“Beth bynnag fydd canlyniad y refferendwm, fe fydd yn fwy dilys petai mwy o bobol yn pleidleisio.”
Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, bnawn ddoe mai 3 Mawrth 2011 yw’r dyddiad y mae o yn ei ffafrio ar gyfer y refferendwm.
Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, fydd yn gwneud y penderfyniad olaf ond awgrymodd ddoe ei bod hi’n hapus gyda’r dyddiad.
Byddai’r dyddiad hwnnw fis cyn dyddiad arfaethedig etholiadau Llywodraeth y Cynulliad, ar 5 Mai 2011, gan roi digon o gyfle i’r pleidiau ymgyrchu ar gyfer hwnnw.
Dywedodd Rachel Banner y bydd y mudiad yn mynd ati i ysgrifennu erthyglau, ceisio denu sylw yn y wasg a rhannu taflenni fel rhan o’r ymgyrch ‘Na’, meddai.
Cafodd y mudiad ei ffurfio er mwyn ymgyrchu am bleidlais ‘Na’ yn y refferendwm ar fwy o bwerau i’r Cynulliad.
Agor y drafodaeth
“Rydw i’n meddwl bod yna gyfrifoldeb ar y grwpiau fydd yn ymgyrchu ‘Ie’ a ‘Na’ i ysbrydoli’r cyhoedd i gyfrannu at yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru,” meddai Rachel Banner.
“Rydan ni’n gwybod fod pobl yn tueddu i ddarllen cyfryngau’r wasg Brydeinig ac efallai nad ydyn nhw’n ymwybodol ynglŷn â beth sy’n digwydd yng Nghymru.
“Mae’n rhaid i ni gwestiynu beth mae’r gwleidyddion yn ei ddweud. Y mwyaf o wybodaeth sydd ar gael i bobol Cymru, y gorau fydd eu penderfyniad. Dyna un peth y bydd yr ymgyrch Ie ac Na yn cytuno arno dw i’n siŵr.”