Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad ar ôl “gwall technolegol difrifol” yn y Cynulliad.

Maen nhw’n pryderu bod ffeiliau cyfrinachol oedd yn eiddo i’r pleidiau gwleidyddol gwahanol wedi cael eu gwneud yn gyhoeddus ar ddiwrnod cyntaf tymor newydd y Cynulliad, ddoe.

Roedd nifer o’r ffeiliau yn cynnwys manylion personol a gwybodaeth gudd am etholwyr.

Dywedodd yr AC Angela Burns ei bod hi wedi ysgrifennu at Brif Weithredwr Comisiwn y Cynulliad yn galw am ymchwiliad i’r gwall technolegol.

“Mae’n bosib bod hyn yn fethiant technolegol difrifol iawn ac mae’n bosib y bydd ganddo sgil effeithiau difrifol ar gyfer diogelwch data,” meddai Angela Burns, AC Gorllewin Caerfyrddin a Sir Benfro.

“Mae gwybodaeth cudd ynglŷn a miloedd o etholwyr sydd wedi ysgrifennu at eu ACau wedi ei storio ar beiriant cyfrifiadur preifat. Rydw i’n pryderu y gallai unrhyw un sy’n gweithio i’r Cynulliad fod wedi cael mynediad i’r ffeiliau.

“Rydw i wedi galw am ymchwiliad llawn i sut ddigwyddodd y gwall diogelwch a beth sy’n cael ei wneud er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd eto.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth Golwg360 eu bod nhw’n ymchwilio i’r achos.