Mae gwirfoddolwyr yn ceisio achub 49 o forfilod sydd wedi mynd yn sownd ar draeth ar ynys ddiarffordd yng ngogledd Seland Newydd.
Darganfuwyd 74 ohonyn nhw ar draeth Spirits Bay, ond roedd 25 ohonyn nhw eisoes wedi marw.
Mae tua 50 arall wedi cael eu gweld yn nofio yn agos i’r lan. Mae gwirfoddolwyr yno yn ceisio cadw’r morfilod yn fyw, ac yn ceisio eu dychwelyd i ddŵr digon dwfn fel eu bod nhw’n gallu nofio eto.
Mae llanw cryf a gwyntoedd cryfion hefyd wedi llesteirio’r ymdrech.
Dyma’r ail waith i ddegau o forfilod fynd yn sownd ar draeth yn yr ardal o fewn mis. Ym mis Awst, fe aeth 58 morfil yn sownd ar draeth gerllaw, a dim ond naw a gafodd eu hachub.