Mae yna bryder ynglŷn â dyfodol cwrel yn môr y Caribî oherwydd cynhesrwydd y dŵr yno.

Yn ôl gwyddonwyr, mae’r tymheredd yn uwch nag yn 2005, pan wnaeth 90% o’r cwrelau gollu eu lliw, a marw.

Mae’r môr o amgylch ynysoedd y Caribî ar ei gynhesaf ym mis Medi, meddai C Mark Eakin, o asiantaeth diogelu cwrelau y Weinyddiaeth Gefnforol.

Dywedodd bod pethau’n edrych yn ddu i’r cwrelau a nad oedd yna unrhywbeth o fewn rheswm allen nhw ei wneud i’w hachub nhw.

Roedd gwyddonwyr oedd yn cadw llygad ar y cwrel yn dweud eu bod nhw eisoes wedi dechrau troi’n frown ac aur, a bod hynny’n tueddi i ddigwydd cyn eu bod nhw’n troi’n wyn a marw.

Yr unig obaith, yn ôl Jeff Miller o Barc Cenedlaethol Ynysoedd Virgin yr Unol Daleithiau, yw eu bod nhw’n cael eu taro gan gorwynt.

Pan aeth y Corwynt Eral trwy’r ardal fe gwympodd tymheredd y dwr tua pedwar gradd, meddai.

“Does neb yn hoffi cael ei daro gan gorwynt,” meddai. “Ond mae o’n gallu helpu’r cwrel.”